Sefydliad Tai Siartredig Cymru

4 Tŷ Purbeck, Cilgant Lambourne

Parc Busnes Caerdydd, Llanisien

Caerdydd

CF14 5GJ

 

 

 

 

 


Prosesau Rhyddhau o'r Ysbyty

 

Ymateb CIH Cymru i'r ymchwiliad

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) yw'r llais annibynnol dros dai ac mae'n gartref i safonau proffesiynol. Mae nod syml gennym - darparu'r cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i weithwyr tai proffesiynol y mae eu hangen arnynt i fod yn ddisglair. Mae CIH yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad nid er elw. Mae hyn yn golygu bod yr arian a wnawn yn cael ei ddychwelyd i'r sefydliad ac yn cyllido ein gweithgareddau wrth gefnogi'r sector tai. Mae gennym aelodaeth amrywiol o bobl sy'n gweithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, mewn 20 o wledydd ar bum cyfandir ledled y byd. Mae gwybodaeth bellach ar gael yn: www.cih.org

 

Yng Nghymru, ein nod yw darparu llais proffesiynol a diduedd dros dai ar draws pob sector i bwysleisio cyd-destun penodol tai yng Nghymru a chydweithio â sefydliadau i adnabod datrysiadau tai.

 

 

I gael mwy o wybodaeth am yr ymateb hwn cysylltwch â

 


Sylwadau Cyffredinol

 

Mae CIH Cymru'n croesawu'r cyfle i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wrth iddo ymgymryd â'i ymchwiliad i brosesau rhyddhau o'r ysbyty yng Nghymru.

 

Mae ein hymateb wedi'i gyfeirio gan adborth ein haelodau, ein gwybodaeth am y diwydiant tai ac arbenigedd ein timau polisi ac arfer.

 

Mae CIH Cymru'n cefnogi datblygu polisïau, arferion a deddfwriaeth ar gyfer Cymru sy'n anelu at ymdrin â'r heriau allweddol a wynebwn o ran tai, gwella safonau a chyflenwad, hyrwyddo cydlyniant cymunedol, taclo tlodi a hyrwyddo cydraddoldeb. Rydym yn hyrwyddo dull un system tai sy'n:

 

·        gosod cyflwyno cartrefi fforddiadwy ychwanegol ar frig strategaethau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol fel dull pennaf o daclo'r argyfwng tai;

 

·        diogelu buddsoddiad er mwyn sicrhau ansawdd uchel a chynaliadwy yr holl gartrefi mewn fframwaith cynaliadwy;

 

·        gwella safonau ac yn datblygu llais defnyddwyr o fewn y sector rhentu preifat;

 

·        hyrwyddo'r cysyniad o adfywio wedi'i arwain gan dai i harneisio'r gwerth ychwanegol y mae tai'n ei greu o safbwynt deilliannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol;

 

·        cydnabod bod diwallu ein hanghenion o ran tai'n agwedd allweddol ar daclo anghydraddoldeb a thlodi;

 

·        sicrhau bod gwasanaethau cefnogi sydd ag adnoddau priodol yn bodoli i atal digartrefedd ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed;

 

·        defnyddio pwerau deddfwriaethol ac ariannol presennol a photensial i ymyrryd mewn marchnadoedd tai a chynlluniau budd-daliadau;

 

·        hyrwyddo hawliau defnyddwyr a chyfranogiad tenantiaid;

 

·        ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus ymarferwyr tai.

 

 

1.         Cyflwyniad

 

1.1       Rydym yn croesawu'r cyfle i ddarparu gwybodaeth i'r ymchwiliad hwn sy'n canolbwyntio ar brosesau rhyddhau o'r ysbyty. Fel y corff aelodaeth ar gyfer gweithwyr tai proffesiynol yng Nghymru, rydym yn gwybod bod cryn dipyn o waith yn digwydd trwy bartneriaethau rhwng cydweithwyr iechyd, tai a gofal cymdeithasol, gan olygu bod pobl yn cyrraedd adref o'r ysbyty yn gyflym, a bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith i gynorthwyo ailsefydlu a gwella ansawdd bywyd. Mae ein tystiolaeth yn seiliedig ar ymchwil a gyflawnwyd gennym i'r hyn sy'n galluogi partneriaethau da rhwng sefydliadau iechyd, tai a gofal cymdeithasol yn ein hadroddiad "Dod ag Iechyd Da Adref". Rydym wedi darparu copi llawn o'r adroddiad ar yr un pryd â'r ymateb hwn.

 

1.2       Mae Tyfu Tai Cymru (TTC) yn brosiect polisi tai 5 mlynedd sy'n canolbwyntio ar ddarparu dadansoddiadau a llenwi bylchau mewn tystiolaeth i gefnogi cynnydd polisïau tai yng Nghymru. Mae'r prosiect, a ariennir gan Sefydliad Oak, yn cael ei reoli gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Mae TTC yn gweithio ar draws tri edefyn allweddol:

·         Adeiladu'r cartrefi iawn i fodloni galw

·         Sicrhau bod tai bob amser yn flaenoriaeth ar gyfer llywodraeth leol

·         Dangos rôl tai wrth gadw pobl yn iawn ac yn iach

 

1.3       Yn 2019 daeth y prosiect Tyfu Tai Cymru ynghyd mewn partneriaeth â Chanolfan Gydweithio Tystiolaeth Tai y Deyrnas Unedig (CaCHE) i ddod o hyd i enghreifftiau o wasanaethau a ddyluniwyd ac a gyflwynwyd ar y cyd rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol. Rhan ganolog o CaCHE yw'r hybiau Cyfnewid Gwybodaeth (CG) sy'n dod ag academyddion, defnyddwyr ymchwil, grwpiau a chymunedau ehangach ynghyd i gyfnewid syniadau, tystiolaeth ac arbenigedd. Yn 2018, gan ddilyn ymarferion blaenoriaethu ym mhob un o'r Hybiau CG, gan gynnwys yr un a grëwyd o fudd-ddeiliaid o bob cwr o Gymru, cytunodd CaCHE i ganolbwyntio ar ddeg maes â blaenoriaeth, y mae un ohonynt yn ymwneud â rhyngweithio rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol.

 

1.4       Lansiodd Tyfu Tai Cymru “Dod ag Iechyd Da Adref” yn hydref 2019 yng nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r adroddiad yn cynnwys model seiliedig ar dystiolaeth o chwe egwyddor sy'n gosod sylfaen partneriaethau cadarn a fydd yn goroesi ar sail y cyfweliadau a gynhaliom â'r partneriaethau sydd wedi'u disgrifio yn adran 2.

 

2.         Methodoleg

 

2.1       Siaradom â phymtheg o brosiectau a ddarparodd y dystiolaeth ar gyfer yr egwyddorion a amlinellir yn yr adroddiad hwn. Mae'r prosiect yn cyflwyno amrywiaeth o wasanaethau sy'n lleddfu'r pwysau ar iechyd a gofal cymdeithasol trwy weithio gyda phobl i wella'u hamgylchiadau iechyd a thai. Mae'r rhain yn cynnwys prosiectau sy'n gweithio i osgoi arosiadau hir yn yr ysbyty, darparu gofal gartref neu o fewn yr ardal a'r rhai sy'n cynnig eiriolaeth a chyngor i gleifion a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd. Mae llawer o'r prosiectau y siaradom â hwy yn berthnasol i wella effeithlonrwydd prosesau rhyddhau o'r ysbyty.

 

 

3.         Egwyddorion y bartneriaeth - yr hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer partneriaethau da rhwng iechyd, tai a gofal cymdeithasol

 

3.1       Dadansoddiad a rennir o broblemau a datrysiadau. Deilliodd y prosiectau y cyfarfûm â hwy o drafodaethau rhwng unigolion o sefydliadau sy'n gweithio ym meysydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol ynglŷn â'r materion yr oeddent yn eu taclo yn eu gwaith a beth yr oedd angen ei wneud yn eu tyb hwy. Roedd ganddynt ddealltwriaeth ar y cyd o'r angen am ddatrysiad cynaliadwy a hir dymor, ac nad oedd modd i wasanaethau unigol wneud i hynny ddigwydd. Teimlwyd bod agweddau pobl yn bwysig, sef credu yn y prosiect a'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud. Amlygodd nifer o bobl bwysigrwydd sgyrsiau sy'n dechrau gyda "beth allwn ni wneud?" yn hytrach na "faint fydd hwn yn costio?" Rhan hollbwysig o'r dadansoddiad hwn yw barn y rhai sydd â'r profiad mwyaf uniongyrchol - gan symud i ffwrdd o'r model "rho hwn iddyn nhw" o gyflwyno gwasanaethau. Teimlodd rhai ymatebwyr y gall cyrraedd dadansoddiad a rennir fod yn heriol oherwydd y bydd gan sefydliadau wahanol agendâu cyferbyniol a all newid dros amser. Mae angen dychwelyd at y dadansoddiad a gweledigaeth hon ar sail reolaidd.

 

3.2       Ffocws ar yr unigolyn. Nododd pob prosiect bwysigrwydd cynnwys cymunedau, yr angen am ddylunio gwasanaethau ar sail y ddealltwriaeth o'r hyn sydd gan bobl a pha anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu ar hyn o bryd. Mae'r dull hwn yn golygu dechrau gyda'r unigolyn a gwrando ar eu profiadau o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Gall hyn olygu rhai newidiadau radicalaidd i sut a phryd rydym yn cyflwyno gwasanaethau ond ar adegau mae'r symudiad yn fach.

 

Cyfarfûm â phrosiectau rhyddhau o'r ysbyty sydd ag unigolyn â gwybodaeth gref am y sector tai yn gweithio o fewn yr ysbyty, gan weithredu fel "yr un sy'n gwybod", y gall staff a chleifion fynd iddynt er mwyn sicrhau bod gan bobl rywle diogel ac addas i fynd. Wedyn gall y swyddog tai gydlynu â gwasanaethau eraill megis therapyddion galwedigaethol a chyrchu cyllidebau ar gyfer addasiadau. Enghreifftiau pellach o hyn yw prosiectau presgripsiynau cymdeithasol, fel y rhai sydd â staff a leolir mewn gofal sylfaenol a all gyfeirio a chefnogi pobl gyda chyflyrau cronig hir dymor, gan gynnig opsiynau sy'n cydweddu â thriniaeth feddygol ac a all leihau dibyniaeth ar wasanaethau'r GIG yn y pen draw.

 

Cydnabuodd prosiectau eraill ei fod yn anodd i rai prosiectau gyrchu'r amrywiaeth o wasanaethau a goresgyn y disgwyliadau isel sydd gan bobl ynglŷn â gwasanaethau. Mae rhai prosiectau wedi cael eu sefydlu gyda'r dymuniad i gael "pawb yn yr ystafell" (gan gynnwys ystod o ymarferwyr iechyd, gweithwyr cymdeithasol a staff o Ganolfannau Byd Gwaith i roi cyngor ar fudd-daliadau). Mae hyn yn cydnabod y cyfle i ddechrau ym mle y mae'r bobl, ac adeiladu eu ffydd i ddechrau cyrchu gwasanaethau eu hunain yn y pen draw.

 

3.3.      Arweinyddiaeth Yn ogystal â chydnabod cryfder creadigol grŵp o unigolion sydd â'r un feddylfryd yn gweithio ar y cyd, amlygodd pobl bwysigrwydd arweinydd sy'n fodlon cymryd risgiau i gyrru gwelliannau trwodd. Arweiniwyd rhai o'r prosiectau y cyfarfûm â hwy gan staff uwch ond ceir enghreifftiau o unigolion mewn swyddi llai sy'n cynnal y momentwm hefyd.

 

Mewn nifer o bartneriaethau, ffactor ychwanegol a brofodd i fod yn benderfynol oedd pan fabwysiadodd cymdeithas tai rôl alluogi, gan symbylu rheolaeth y prosiect a phennu'r amserlen sydd i'w dilyn wedyn gan yr asiantaethau statudol.

 

3.4       Cyllidebau ar y cyd. Myfyriodd pob partneriaeth ar yr angen am adnoddau a chyllid i gyflwyno'r gwaith. Roedd gan lawer o'r partneriaethau yr oeddem wedi cwrdd â hwy un partner sy'n darparu cyfran uwch o'r adnoddau. Mantais cyfraniad ariannol gan bob partner yw'r arwyddocâd y mae hyn yn ei gyfrannu at uchelgais y prosiect gan y bydd angen i bob sefydliad ddangos defnydd da o adnoddau. Mewn llawer o bartneriaethau ni fyddai'n bosib gwneud cyfraniadau ariannol cyfartal ond gallai fod dulliau eraill o ddarparu adnoddau. Gallai hwn fod ar ffurf amser staff neu cytundebau hwyluso gyda phartneriaid.

 

Dywedodd nifer o brosiectau wrthym eu bod wedi rhoi cynigion ar y cyd am gyllid at ei gilydd, nododd y prosiectau a oedd wedi gwneud hyn ei fod yn broses sy'n cymryd amser ac yn peri rhwystredigaeth oherwydd yr angen am ymdrin â biwrocratiaeth mewn nifer o sefydliadau. Er hynny, siaradodd y prosiectau hynny yr oeddent wedi llwyddo i gyrchu cyllid trwy gynigion ar y cyd am fanteision cael eu gorfodi i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth cyn medru cyrchu'r arian. Enghraifft o gyllid ar y cyd posib yw Cronfa Gofal Integredig (CGI) Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gan fod angen cyrchu CGI trwy'r Bwrdd Iechyd mae'n rhaid dibynnu ar allu staff y Bwrdd Iechyd i flaenoriaethu'r broses ymgeisio dros ofynion eraill

 

3.5       Dehongliad a rennir o'r ddeddfwriaeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn amlinellu rolau Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol (BPRh) sydd wedi'u ffurfio o gynrychiolwyr meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai, y trydydd sector a phartneriaethau eraill i sicrhau gwasanaethau integredig yng Nghymru. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn hybu egwyddorion atal, integreiddio, cydweithio a chyfranogiad hir dymor i helpu cyrff cyhoeddus i ymgymryd â chynllunio gwell er budd ein poblogaeth a chenedlaethau'r dyfodol.

 

Nododd ein hymchwil fod y BPRh yn ffordd hynod dda o gael pawb o gwmpas y bwrdd, a gallai'r strwythur mwy ffurfiol annog yr holl sefydliadau allweddol i weithio ar y cyd i ddarparu gwasanaeth cyfannol. Roedd rhai o'r prosiectau y cyfarfûm â hwy wedi defnyddio'r ddeddfwriaeth mewn ffyrdd eraill hefyd i oresgyn rhwystrau yn y system, gan sicrhau y defnyddir y dehongliad i greu partneriaethau a'u gwneud yn gadarn. Yn gymaint ag y mae'r ddeddfwriaeth yn caniatáu creadigrwydd, meithrin a menter mae angen hefyd i ni herio'r diwylliant a yrrir gan dargedau a all olygu ticio blychau dros y tymor byr yn hytrach na chyflwyno gwasanaethau sy'n gweithio dros bobl ar yr amser ac yn y lle y mae eu hangen nhw.

 

3.6       Cydnabyddiaeth o anghydbwysedd pŵer. Ar gyfer partneriaethau llwyddiannus, mae'n bwysig cydnabod y gwahaniaethau mewn pwerau hyd yn oed os mai trafodaeth newydd rhwng partneriaid yw hon. Yn aml, mae'r gwahaniaeth o ran maint, cyllideb neu gredadwyedd un partner yn golygu awgrymiad anysgrifenedig o'r awdurdod a ddelir gan y partner hwnnw.

 

Gall fod yn ddefnyddiol cael trefniadau ffurfiol i daclo'r anghydbwysedd pŵer, fel bwrdd rheoli ar y cyd gyda chyfarfodydd rheolaidd. Dywedodd prosiectau wrthym hefyd fod partneriaethau'n elwa o gydnabod y daw pob unigolyn â chryfderau fel profiad, cysylltiadau â chymunedau neu frwdfrydedd at y prosiect. Gan y disgwylir y bydd rhai sefydliadau (megis Awdurdodau Lleol) yn mynd yn rhan o nifer o bartneriaethau, mae'n bwysig amlygu cryfder yr ymdrech a ddisgwylir gan y rhai sy'n eistedd o gwmpas y bwrdd hefyd.

Gall anghydbwyseddau pŵer ddod i'r amlwg hefyd trwy'r defnydd o jargon neu derminoleg i eithrio pobl (er enghraifft mae 'llesiant', 'cysylltwyr cymunedol' yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol).

 

4. Astudiaethau achos prosiectau y siaradom â nhw yn ein hadroddiad

 

4.1       Mae Mudiad 2025 yn bartneriaeth yng Ngogledd Cymru sydd â'r genhadaeth o ddod ag anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi yn y rhanbarth i ben erbyn 2025. Fe'i ffurfiwyd yn 2015 wrth ymateb i ffigyrau a ddangosodd fod pobl mewn ardaloedd o amddifadedd uwch yng Ngogledd Cymru yn debygol o fyw 11 mlynedd yn llai na'r rhai mewn ardaloedd eraill. Ei aelodau yw uwch arweinwyr ac ymarferwyr o Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gwasanaethau Tân a Heddlu a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n cynnwys rhaglen rhyddhau o'r ysbyty sy'n gweithio ar draws Conwy a Sir Ddinbych mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Datrysiadau Tai Conwy, Datrysiadau Tai Sir Ddinbych, Conwy a Sir Ddinbych yn Ysbyty Glan Clwyd i ymdrin ag unrhyw faterion o ran tai sy'n galluogi rhyddhau'n amserol o'r ysbyty i gartref, neu i lety dros dro pan fydd angen. Rheolir achosion mewn cydymffurfiad â deddfwriaeth Deddf Tai (Cymru) 2014 ac o fewn arweiniad clir y fenter Cefnogi Pobl. http://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Housing/Homelessness/Homelessness.aspx

https://2025movement.org/

 

4.2       Mae datblygiad Heol Brynteg Cymdeithas Tai Unedig Cymru, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn cefnogi cleifion wrth bontio o fyw mewn lleoliad ward ysbyty seiciatrig fforensig tymor hir yn ôl i fyw yn y gymuned. Mae hyn yn helpu nhw i ddatblygu sgiliau bywyd a symud tuag at fyw'n annibynnol ac yn gydnerth, ac ar yr un pryd mae'n rhyddhau gwelyau ar wardiau ar gyfer y rhai sydd mewn angen ac yn creu arbedion cost sylweddol i'r bwrdd iechyd. Sefydlwyd Heol Brynteg fel rhan o'r fenter Mewn Un Lle - prosiect ar y cyd rhwng BIPAB, wyth cymdeithas tai ac awdurdodau lleol Gwent sy'n ceisio datblygu a darparu llety a gofal ar gyfer pobl sydd ag Anghenion Iechyd Parhaus (AIP) mewn lleoliadau ward nad ydynt yn addas iddynt mwyach.

https://www.unitedwelsh.com

 

4.3       Mae Gwasanaeth Ysbyty i Gartref Gofal a Thrwsio Cymru'n rhan o'r mentrau gwaith ar y cyd a gomisiynwyd rhwng Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd lleol a sefydliadau trydydd sector i gael effaith gadarnhaol wrth helpu pobl i fynd adref (fel rhan o waith ataliol cyn gaeaf 2019/20).Mae asiantaethau Gofal a Thrwsio'n gweithio mewn chwech o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol gyda gwasanaethau'n cael eu cyflwyno o un ar ddeg o ysbytai yng Nghymru, ynghyd â'r gwasanaeth presennol yn ysbyty Tywysoges Cymru Pen-y-bont ar Ogwr. Mae gweithwyr achos yn gweithio'n uniongyrchol â chleifion a thimau clinigol ar wardiau, gan gynnal sgyrsiau cynnar am y gwelliannau sydd eu hangen yng nghartref y claf i'w alluogi i gael ei ryddhau'n ddiogel a mor gyflym â phosib, gyda chefnogaeth gan Swyddogion Technegol a thimau Gwella Cartrefi. www.careandrepair.org.uk/cy/

 

4.4       Mae Prosiect y Goleudy Cymdeithas Tai Taf yn cydweithio â Thîm Rhyddhau Ysbyty Brenhinol Gwent i sefydlu gwasanaeth i helpu cleifion â phroblemau gysylltiedig â rhyddhau o'r ysbyty sy'n achosi oedi wrth ryddhau nhw'n ddiogel o'r ysbyty. Gall y problemau amrywio o fygythiad o ddigartrefedd, budd-daliadau nad ydynt wedi'u trefnu eto neu gartref presennol sy'n anaddas neu'n annrhigiadwy. Mae un o Weithwyr Cefnogi Prosiect y Goleudy bellach wedi'i leoli'n barhaol o fewn y Tîm Rhyddhau o'r Ysbyty. Maent yn cydweithio'n agos â'r claf, staff meddygol, y teulu a gwasanaethau gwirfoddol neu statudol allweddol eraill er mwyn gostwng 'rhwystro gwelyau'. www.cymdeithastaitaf.co.uk/prosiect-y-goleudy/

 

 

5. Mwy o wybodaeth

Ceir manylion y prosiectau y siaradom â hwy gyda'r adroddiad http://www.cih.org/resources/PDF/Wales%20Tyfu%20Tai/0419%20TTC%20PHH%20project%20WELSH%20WEB.pdf